Ymennydd Brand

System frand sy'n dysgu dy sefydliad.

Gosod dy hunaniaeth unwaith, ac mae'n sail i bopeth rwyt ti'n ei greu. Po fwyaf rwyt ti'n ei greu, y lleiaf o waith gosod sydd ei angen ar bob rownd o gynnwys.

Un ffynhonnell wir

Mae dy liwiau, ffontiau, logo a naws dy lais yn byw mewn un lle, felly mae pob ased yn dechrau ar frand.

Sail i bob capsiwn

Mae capsiynau a hashnodau'n cael eu drafftio o dy lais brand, nid templed cyffredinol, yn Gymraeg a Saesneg.

Mynd yn graffach wrth i ti fynd

Po fwyaf o gynnwys rwyt ti'n ei greu a'i gymeradwyo, gorau i gyd mae Postia'n deall sut mae dy sefydliad yn swnio ac yn edrych.

Ti sy'n rheoli

Mae'n awgrymu, ti sy'n penderfynu. Does dim yn cael ei gyhoeddi heb i berson ei gymeradwyo.

Gosod dy frand.

Rho dy frand i Postia unwaith ac mae pob ased yn cael ei adeiladu ohono.