Gweithle Creadigol

Un briff. Y set gyfan o asedau.

Delweddau dynamig, fideo a chapsiynau ar gyfer ymgyrch, wedi’u gwneud o un briff ac wedi’u seilio ar y brand rwyt ti’n ei osod unwaith. Yn Gymraeg, yn Saesneg, neu’r ddau. Dim neidio rhwng offeryn dylunio, golygydd fideo a chyfieithydd.

Sut mae’r gwaith yn llifo

Un briff, pob ased

Delweddau dynamig, fideo a chapsiynau o un briff, i gyd yn tynnu ar yr un brand. Does dim byd yn mynd ar goll rhwng apiau.

Y ddwy iaith gyda’i gilydd

Mae Cymraeg a Saesneg yn dod allan o’r un briff, felly dyw’r ail iaith byth yn ail dasg.

Does dim yn gadael hebot ti

Dyw Postia ddim yn postio dim byd. Ti sy’n edrych dros bob ased ac yn ei allforio dy hun, yn y maint iawn ar gyfer pob llwyfan, fel nad oes dim yn cyrraedd ffrwd heb i berson ei weld.

Llai o gynhyrchu. Mwy o greadigrwydd.

Gosod dy frand a gwneud dy bost cyntaf ar frand mewn munudau.