Sut mae'n gweithio

O syniad i bost, mewn tri cham.

Dim dylunydd, dim golygydd, dim copiwr. Rho dy frand iddo unwaith, gofyn am yr hyn rwyt ti eisiau, a chymeradwyo popeth cyn iddo fynd allan.

Cam 01

Rho dy frand iddo

Lliwiau, ffontiau, logo, naws dy lais. Unwaith. Mae Postia'n cadw'r cyfan fel system frand, fel nad oes rhaid i ti egluro dy hun byth eto.

  • Ychwanega dy liwiau, ffontiau a logo unwaith
  • Disgrifia naws dy lais yn dy eiriau dy hun
  • Mae'n dysgu dy sefydliad po fwyaf rwyt ti'n ei greu
Cam 02

Gofyn, a chei

Disgrifia beth wyt ti eisiau, neu ddewis templed. Cei ddelweddau, fideo a chapsiynau sy'n swnio go iawn fel ti, yn Gymraeg, yn Saesneg, neu'r ddau.

  • Delweddau, fideo animeiddiedig a chapsiynau AI
  • Wedi'u hysgrifennu yn dy lais brand, nid un cyffredinol
  • Cymraeg a Saesneg yn gyfartal, fesul ased
Cam 03

Postia gyda winc

Mireinia'r dyluniad, y geiriau, neu'r iaith, yna allforia yn y maint iawn ar gyfer pob llwyfan. Does dim yn mynd yn fyw nes i ti ddweud.

  • Allforio wedi'i feintio ar gyfer Instagram, Facebook, LinkedIn, X a TikTok
  • Golygu nes ei fod yn swnio'n union fel ti
  • Does dim yn cyhoeddi heb dy gymeradwyaeth

Ti sy'n rheoli, bob cam o'r ffordd.

Mae Postia'n drafftio; ti sy'n penderfynu. Mae person yn cymeradwyo pob delwedd, fideo a chapsiwn cyn iddo gyhoeddi, ac mae dy ddata brand yn aros yn eiddo i ti.

Rho gynnig arni nawr.

Gosod dy frand a gwneud dy bost cyntaf ar frand mewn munudau.