Un ymgyrch. Pob cynulleidfa. Un weledigaeth greadigol.
Ar gyfer sefydliadau sy’n creu mewn mwy nag un iaith, yn enwedig Cymraeg a Saesneg. Cyrraedd pob cynulleidfa gyda’r un syniad a’r un safon, heb wneud y gwaith ddwywaith. Mae dy Gymraeg yn darllen fel Cymraeg, achos mae’n cael ei thrin yn gyfartal o’r cychwyn.
Nid ychwanegiad cyfieithu
Mae Cymraeg a Saesneg yn gyfartal yma. Creu yn y naill neu’r llall, neu eu paru fesul ased, dim cyfieithu peirianyddol fel ôl-ystyriaeth.
Llai o ymdrech ddyblyg
Mae un weledigaeth greadigol yn cyrraedd y ddwy gynulleidfa, felly mae ymgyrch ddwyieithog yn peidio â bod yn ddwbl y gwaith.
Wedi’i wirio gan berson pan mae’n cyfri
Anfon unrhyw gapsiwn neu graffeg at weithiwr iaith cymwys i’w ddilysu cyn i ti gyhoeddi. Person go iawn ar y geiriau sy’n cario dy enw.
Dilysu proffesiynol, un clic i ffwrdd
Pan fydd rhaid i’r Gymraeg fod yn gywir, anfon hi at weithiwr iaith cymwys i’w hadolygu. Ti sy’n ei hanfon, nhw sy’n ei gwirio, ti sy’n ei chymeradwyo. Mae pob job yn cael ei dyfynnu ar wahân, ac fe gytunir ar y ffi gyda ti cyn i unrhyw waith ddechrau.
Dwy iaith. Un weledigaeth greadigol.
Gwna dy bost dwyieithog cyntaf a gwêl sut mae’r Gymraeg yn darllen.